Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (113) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.15
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Halogi Cynnyrch Cig Eidion
Dechreuodd yr eitem am 14.33
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Diwygio TGCh - adolygu'r rhaglen Dysgu Digidol
Dechreuodd yr eitem am 15.20
5. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyflwyno'r Bil Teithio Byw (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.47
6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Y diweddaraf ynghylch Mynediad at Ddeddfwriaeth
Dechreuodd yr eitem am 16.37
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Ynni
Dechreuodd yr eitem am 17.15
NDM5120 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Ynni sy’n ymwneud â sefydlu safonau perfformiad ynghylch allyriadau i osod terfynau ar faint o garbon deuocsid y gall gorsaf bŵer tanwydd ffosil newydd (h.y. un sy’n cael ei phweru gan lo, olew neu nwy “naturiol”) ei ollwng yn ystod unrhyw flwyddyn benodol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Mordwyo Morol (Rhif 2)
Dechreuodd yr eitem am 17.22
NDM5126 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Mordwyo Morol (Rhif 2), sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Peilota 1987, Deddf Harbyrau 1964 a Deddf Llongau Masnach 1995, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9. Dadl: Setliad yr Heddlu
Dechreuodd yr eitem am 17.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5163 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2013-2014 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
11 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod
Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.06
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 18:07
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 20 Chwefror 2013